Datganiad hygyrchedd ar gyfer estyn.llyw.cymru

Share this page

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i estyn.llyw.cymru. Estyn sy’n cynnal y wefan hon. Rydym ni eisiau cynifer o bobl â phosibl i allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:
• newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
• chwyddo mewn i hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar ochrau’r sgrin
• symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
• symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
• gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Hefyd, rydym wedi gwneud i destun y wefan fod mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Diweddarwyd y dudalen hon ar

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

 

  • Nid yw’r testun amgen ar ddelweddau yn ddigon penodol bob tro
  • Nid yw’r ddewislen yn hygyrch i bob grŵp defnyddwyr
  • Nid yw rhai meysydd mewnbwn wedi’u labelu
  • Nid yw’r drefn ffocws yn cadw ystyr ac ymarferoldeb bob tro
  • Y botymau radio yn ‘Adnoddau gwella’
  • Y tabiau dan ‘Adroddiad Blynyddol’
  • Disgrifiadau ar labeli botymau
  • Diffyg arwydd ffocws ar y ddewislen ar frig y dudalen
  • Ail-lifo yn y ffenestr naid ar gyfer derbyn Cwcis
  • Cymhareb cyferbynnedd lliwiau ar restrau dogfennau
  • Nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin

Adborth a gwybodaeth cysylltu

Os bydd angen gwybodaeth arnoch o’r gwefannau hyn mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu Braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 2 ddiwrnod.

Os na allwch weld y map ar ein tudalen cysylltwch â ni, ffoniwch neu anfonwch e-bost atom i gael cyfarwyddiadau.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r gwefannau hyn

Rydym ni bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y gwefannau hyn.  Os cewch unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n meddwl nad ydym ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: [email protected]

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).  Os nad ydych chi’n fodlon â’r ffordd rydym ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Estyn yn ymroi i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio sydd wedi’i restru isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys sydd wedi’i restru isod yn hygyrch am y rhesymau a ganlyn.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Rhoddwyd labeli rhyngweithiol i rai elfennau graffig a all beri dryswch i ddefnyddwyr rhaglenni darllen sgrin. Mae hyn yn achosi trafferthion i ddefnyddwyr rhaglenni darllen sgrin oherwydd pan fyddant yn dod ar draws y delweddau yn y rhestr dialog graffeg, caiff y testun ei ddarllen ar goedd i ddisgrifio’r delweddau. Byddai defnyddwyr rhaglenni darllen sgrin yn disgwyl i’r delweddau gael eu cuddio ac i’r wybodaeth am ddolenni allanol fod yn rhan o destun y ddolen yn hytrach na’r ddelwedd (Lefel A). 


Nid yw testun y ddewislen cyferbynnedd lliw yn bodloni canllawiau WCAG 2.1. Gallai’r broblem hon effeithio ar ddefnyddwyr â golwg wan a defnyddwyr bysellfwrdd yr unig, efallai na fyddant yn gallu gweld bod y ffocws wedi’i roi ar y ddolen (Lefel A).


Nid yw’r ddewislen yn hygyrch i bob grŵp defnyddwyr. Pan fydd maint y sgrin wedi’i leihau, mae dewislen yn ymddangos ar y dudalen a phan fydd defnyddwyr yn clicio dolen y ddewislen, mae cwymplen yn ymddangos ar ochr chwith y sgrin. Nid oes gan ddefnyddwyr rhaglenni darllen sgrin unrhyw arwydd fod y ddewislen wedi ehangu na phan ran o’r ddewislen y mae’r ffocws arni (Lefel A).


Mewn blychau chwilio, nid yw defnyddwyr yn cael cyfarwyddiadau i ddisgrifio pa ddata mewnbynnu sy’n cael ei ddisgwyl. Defnyddiwyd testun dalfan fel yr unig dechneg labelu. Gallai labeli helpu’r rhai sydd ag anableddau gwybyddol, iaith ac anableddau dysgu i fewnbynnu gwybodaeth yn gywir. Gallai labeli helpu atal defnyddwyr rhag gwneud gwallau cyflwyno hefyd. I ddefnyddwyr actifadu â llais, gellir defnyddio labeli gweladwy i ddangos yr enw hygyrch y gall technoleg gynorthwyol ei ddefnyddio i gyfeirio at yr elfen hon (Lefel A).


Mae’r drefn ffocysu ar y dudalen yn afresymegol. Gallai hyn beri dryswch i ddefnyddwyr bysellfwrdd yn unig sy’n llywio’r dudalen gan ddefnyddio’r fysell tab. Dylai’r drefn ffocysu fod yn ddilyniannol, o’r chwith i’r dde, o’r brig i’r gwaelod i alluogi defnyddwyr bysellfwrdd i lywio’r dudalen yn hawdd ac yn effeithiol (Lefel A). 


Pan fydd defnyddiwr bysellfwrdd yn dewis o’r ddewislen <dewis>, mae’r dudalen yn cael ei diweddaru a chaiff ffocws y defnyddiwr ei anfon i frig y dudalen. Mae hyn yn newid cyd-destun y dudalen a gall hyn beri cryn ddryswch (Lefel A). 


Mae’r tabiau wedi’u marcio’n anghywir. Mae’r tabiau ar y dudalen wedi’u marcio fel dolenni, sy’n golygu na all defnyddwyr rhaglenni darllen sgrin eu hadnabod a’u llywio fel tabiau. Nid yw’r tabiau’n cael eu cyhoeddi fel tabiau i ddefnyddwyr, ac ni all defnyddwyr ddefnyddio’r bysellau saeth i lywio rhyngddynt (Lefel A).


Nid yw’r tabiau ar y dudalen yn cael eu haroleuo er mwyn rhoi ffocws arnynt. Gallai hyn achosi anhawster i grwpiau defnyddwyr bysellfyrddau a defnyddwyr â golwg wan, na fyddant yn gallu gweld pa dab y mae’r ffocws arno. Dylai’r holl elfennau rhyngweithiol ar y dudalen fod ag arolau ffocws cyson, gan y bydd hyn yn galluogi defnyddwyr i nodi’r elfennau a gweld lle mae’r ffocws ar y dudalen (Lefel AA).


Pan fydd gosodiadau ail-lifo wedi’u gosod ar y dudalen, mae’r faner cwcis yn gorchuddio’r dudalen gyfan, sy’n golygu na all defnyddwyr weld y wybodaeth ar y dudalen o gwbl. Gallai’r mater hwn effeithio ar ddefnyddwyr â golwg wan sy’n defnyddio gosodiadau ail-lifo i lywio tudalennau gwe (Lefel AA).


Pan fydd defnyddwyr yn tabio drwy eitemau’r ddewislen, mae dolen yr ‘Ystafell Arolygu Rithwir’ yn ddu ar gefndir llwyd tywyll. Mae hyn yn anghyson â’r dolenni eraill ar restr y ddewislen, lle y defnyddiwyd dangosydd melyn. Gallai’r mater hwn effeithio ar ddefnyddwyr â golwg wan a defnyddwyr bysellfwrdd yn unig, efallai na fyddant yn gallu gweld y rhoddwyd ffocws ar y ddolen (Lefel AA).

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF ac eraill

Nid yw penawdau gweledol mewn rhai o’n dogfennau pdf wedi’u pennu’n rhaglennol ac nid ydynt yn bodloni safonau hygyrchedd.  Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) WCAG.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn ein bod yn trwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol ar gyfer darparu’n gwasanaethau.  Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio adroddiadau arolygu.

Fideo parod

Nid yw capsiynau caeedig ar gael ar gyfer rhai fideos.  Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.2.2 (Capsiynau (Parod)) WCAG.

Mae priodoleddau teitl ar goll o fideos YouTube ymgorfforedig sy’n golygu efallai na fydd rhai defnyddwyr technoleg gynorthwyol yn gallu cael gwybod beth yw eu cynnwys na’u diben.  Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant 2.4.2 (Teitl Tudalen) a 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth) WCAG.

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at y fideos hyn oherwydd fe’u cyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020 ac maent wedi’u heithrio o’r rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn sicrhau bod unrhyw fideos newydd a gyhoeddir yn cynnwys capsiynau caeedig.

Beth rydym ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Cynhaliom archwiliad hygrchedd ym Mai 2021 ac rydym wedi bod yn trwsio ac yn ailbrofi problemau ers hynny. Mae tîm datblygu’r wefan wrthi o hyd yn diweddaru materion hygyrchedd, gyda thrydydd prawf hygyrchedd yn yr arfaeth. Bydd yr holl drwsiadau technegol yn cael eu cwblhau erbyn diwedd Medi.

Ar hyn o bryd hefyd, rydym yn ychwanegu Teitlau tudalen coll at ddogfennau PDF a lwythwyd ers Medi 2018 a disgwyliwn i’r gwaith hwn gael ei gwblhau erbyn 31 Ionawr 2023.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 22 Ionawr 2020. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 31 Mai 2022.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 31 Mawrth 2022.  Gwnaed y prawf gan y Digital Accessibility Centre.

Penderfynom fynd ati fel a ganlyn i benderfynu ar sampl o dudalennau i brofi teithiau defnyddwyr amrywiol ar draws pob math o gynnwys ar y safle a’n holl dudalennau chwilio:

  • Dod o hyd i adroddiad arolygu darparwr
  • Dod o hyd i arfer effeithiol benodol
  • Lawrlwytho adroddiad thematig
  • Dod o hyd i swyddi gwag presennol
  • Cofrestru i gael diweddariadau
  • Lawrlwytho cynnwys Adroddiad Blynyddol
  • Dod o hyd i Gwestiwn Cyffredin

Dod o hyd i bolisi penodol