Beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru? Mae ein Hadroddiad Blynyddol 2021-22 yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau gwerthfawr i gefnogi darparwyr addysg a hyfforddiant.
Mae ein Hadroddiad Blynyddol 2021-22 yn offeryn defnyddiol i helpu i wella ansawdd addysg a’i heffaith ar ddysgu yng Nghymru. Mae’n rhannu canfyddiadau o’n gwaith ar draws pob sector addysg a hyfforddiant yn ystod blwyddyn academaidd 2021-22.
Hefyd, mae cwestiynau hunanfyfyrio i’ch helpu i ganolbwyntio ar feysydd i’w gwella. Mae’n hawdd pori drwy’n hadroddiad ar-lein a dod o hyd i wybodaeth sy’n berthnasol i’ch sector chi. Darllenwch Adroddiad Blynyddol 2021-22
Mae Owen Evans, PAEF, yn ymweld ag Ysgol Gynradd y Santes Fair yng Nghas-gwent i weld sut mae adnoddau o’n Hadroddiad Blynyddol eisoes wedi helpu gweithgareddau gwella yn yr ysgol a sut mae ei hymdrechion wedi codi safonau Cymraeg disgyblion.
Gweithgareddau i gynghorau ysgol a grwpiau llais y disgybl
Rydym wedi dewis ychydig o bynciau sydd wedi dod i’r amlwg yn yr Adroddiad Blynyddol rydym yn credu y byddai disgyblion yn ei chael hi’n ddiddorol eu trafod.
Dewiswch y botwm cynradd neu uwchradd i weld y gweithgareddau animeiddiedig rydym wedi’u creu ar gyfer y pynciau hyn.
Mae’r gweithgaredd i ddisgyblion cynradd yn edrych ar sut gallant ddylanwadu ar ddysgu ac mae’r gweithgaredd uwchradd yn canolbwyntio ar hanes Cymru, gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.
Bydd y cymeriad ym mhob animeiddiad yn arwain disgyblion drwy’r cwestiynau.
Cofiwch lawrlwytho’r ffurflenni ar ddechrau’r gweithgaredd i gofnodi syniadau a chamau gweithredu.