Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd 2021 2022

Share this page

Beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru? Mae ein Hadroddiad Blynyddol 2021-22 yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau gwerthfawr i gefnogi darparwyr addysg a hyfforddiant.
Diweddarwyd y dudalen hon ar
Publication date

Adroddiad Blynyddol 2021-22 a’r Canfyddiadau Cryno

Mae ein Hadroddiad Blynyddol 2021-22 yn offeryn defnyddiol i helpu i wella ansawdd addysg a’i heffaith ar ddysgu yng Nghymru. Mae’n rhannu canfyddiadau o’n gwaith ar draws pob sector addysg a hyfforddiant yn ystod blwyddyn academaidd 2021-22.
Hefyd, mae cwestiynau hunanfyfyrio i’ch helpu i ganolbwyntio ar feysydd i’w gwella. Mae’n hawdd pori drwy’n hadroddiad ar-lein a dod o hyd i wybodaeth sy’n berthnasol i’ch sector chi. 
Darllenwch Adroddiad Blynyddol 2021-22

Rydym hefyd wedi rhannu canfyddiadau cryno o’r Adroddiad Blynyddol. 
Darllenwch y canfyddiadau cryno

Mae rhagor o arweiniad ymarferol i gefnogi hunanwerthuso ysgolion i’w weld ar dudalennau Yr adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella ar Hwb.
 

 

Defnyddio’r Adroddiad Blynyddol i helpu gwella

Mae Owen Evans, PAEF, yn ymweld ag Ysgol Gynradd y Santes Fair yng Nghas-gwent i weld sut mae adnoddau o’n Hadroddiad Blynyddol eisoes wedi helpu gweithgareddau gwella yn yr ysgol a sut mae ei hymdrechion wedi codi safonau Cymraeg disgyblion.

Gweithgareddau i gynghorau ysgol a grwpiau llais y disgybl

Rydym wedi dewis ychydig o bynciau sydd wedi dod i’r amlwg yn yr Adroddiad Blynyddol rydym yn credu y byddai disgyblion yn ei chael hi’n ddiddorol eu trafod.

Dewiswch y botwm cynradd neu uwchradd i weld y gweithgareddau animeiddiedig rydym wedi’u creu ar gyfer y pynciau hyn.

Mae’r gweithgaredd i ddisgyblion cynradd yn edrych ar sut gallant ddylanwadu ar ddysgu ac mae’r gweithgaredd uwchradd yn canolbwyntio ar hanes Cymru, gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.

Bydd y cymeriad ym mhob animeiddiad yn arwain disgyblion drwy’r cwestiynau.

Cofiwch lawrlwytho’r ffurflenni ar ddechrau’r gweithgaredd i gofnodi syniadau a chamau gweithredu.

Gweithgaredd - cynradd

Gweithgaredd - uwchradd