Sefydlwyd Canolfan Cadogan, sef adran cymorth dysgu’r ysgol, dros 50 mlynedd yn ôl, ac mae’n darparu’r hyb ar gyfer dull addysgol a chymorth un-i-un arbenigol yr ysgol. Nid yw’r ysgol yn cyflogi cynorthwywyr addysgu, ond yn hytrach, ceir dosbarthiadau sy’n fach o ran maint, a staff sy’n addysgu yn y brif ffrwd sy’n meddu ar gymwysterau ôl-radd mewn ‘Addysgu a Dysgu Disgyblion ag Anawsterau Dysgu Penodol’. Mae 20 o athrawon cymorth arbenigol yn gweithio ar y cyd ag athrawon y cwricwlwm i gyflwyno tua 550 o wersi cymorth arbenigol un-i-un bob wythnos. Mae athrawon yn monitro dysgu academaidd disgyblion ac yn darparu lefel sylweddol o gymorth ac arweiniad bugeiliol i ddisgyblion a rhieni, yn ogystal. Mae technoleg gynorthwyol yn galluogi disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol am oes. Cyflwynir holl wersi’r cwricwlwm a’r gwersi un-i-un gan ddefnyddio platfformau ar-lein sy’n galluogi disgyblion ac athrawon i rannu cynnwys cyrsiau, a chydweithio.
Mae’r ysgol yn darparu gwersi unigol ar gyfer disgyblion sy’n wynebu rhwystrau penodol rhag dysgu. Gallai’r rhwystrau hyn olygu atal plant rhag cyrraedd eu potensial academaidd a phersonol llawn, a allai gael effaith negyddol ar eu lles cymdeithasol ac emosiynol, a’u cyfleoedd yn y dyfodol. Mae gan St David’s brofiad helaeth o addysgu disgyblion:
• sy’n wynebu heriau yn gysylltiedig â llythrennedd
• sydd angen cymorth ychwanegol â mathemateg
• sydd ag anawsterau â chofio a galw i gof
• sydd â medrau prosesu arafach
• sydd â heriau o ran canolbwyntio a thalu sylw
• sydd ag anghenion cymorth o ran iaith a chyfathrebu.
Mae ethos yr ysgol yn dathlu cryfderau disgyblion ochr yn ochr ag addysgu a dysgu o ansawdd uchel, lle caiff disgyblion eu hannog i gyrraedd eu llawn botensial, a rhagori arno, trwy ymyrraeth dargedig unigol. Mae’r ysgol yn monitro ac yn addasu’r cwricwlwm er mwyn sicrhau bod addysgu a dysgu yn gweddu i ddoniau a galluoedd pob disgybl. Mae pasbort y disgybl, sy’n cael ei lenwi gan athrawon prif ffrwd a therapyddion, yn rhannu gwybodaeth ag athrawon prif ffrwd ynghylch anghenion a chryfderau disgyblion unigol. Mae disgyblion yn dysgu gwydnwch, medrau cyfathrebu, hunanreolaeth, a defnydd o dechnoleg gynorthwyol a strategaethau cysylltiedig mewn ffordd amlsynhwyraidd. Mae’r rhain yn rhan hanfodol o ddull yr ysgol o ran ymyrraeth, ac yn helpu disgyblion i fod yn ddysgwyr hunangyfeiriedig, annibynnol ac ymgysylltiedig, sy’n gallu mynd allan i’r byd a ffynnu.
Mae olrhain yr holl ddisgyblion bob blwyddyn gan aseswyr arbenigol mewn dyslecsia, ar sail tystiolaeth, yn golygu y gellir defnyddio data cyfoes i adlewyrchu dilyniant disgyblion, ac addasu darpariaeth pan fydd angen, a nodi a rhannu arfer orau yng nghyfarfodydd wythnosol y tîm amlddisgyblaethol. Caiff y dull hwn effaith gadarnhaol ar ddeilliannau dysgwyr o ran medrau llythrennedd a rhifedd gwaelodlin, yn ogystal â’u ffordd o weithredu, eu cyfathrebu a’u lles emosiynol.
Yn y pum mlynedd ddiwethaf, mae’r ysgol wedi cyflogi therapyddion lleferydd ac iaith, therapyddion galwedigaethol a chwnselwyr fel aelodau o staff Cadogan. Maent yn gweithio gyda disgyblion, athrawon a rhieni i ddarparu dull therapiwtig integredig. Yn ychwanegol, mae Rhaglen Defnydd Cymdeithasol o Iaith yr ysgol, dan oruchwyliaeth y therapydd lleferydd ac iaith, yn cefnogi disgyblion sy’n agored i niwed sy’n cael trafferth â rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu. Mae’r therapïau a’r rhaglenni hyn yn defnyddio’r un cynlluniau dysgu unigol (CDUau) ar gyfer gosod targedau disgyblion ac adolygiadau.