Arfer Effeithiol |

Tyfu arweinwyr trwy ddatblygiad a hyfforddiant i arweinwyr canol

Share this page

Nifer y disgyblion
1480
Ystod oedran
11-18
Dyddiad arolygiad

 

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Ysgol gymysg 11-18 oed a gynorthwyir yn wirfoddol yw St Joseph’s RC High School, Casnewydd, sydd yn ninas Casnewydd ac yn archesgobaeth Babyddol Caerdydd. Mae 1480 o ddisgyblion ar y gofrestr, gyda 320 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth. Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o ddinas Casnewydd a daw lleiafrif bach o Risga, Cilycoed a Chas-gwent.

Daw disgyblion o ystod eang o gefndiroedd economaidd gymdeithasol. Mae gan gyfanswm o 15.6% o ddisgyblion hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae hyn ychydig islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 17.4% ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae tua 29% o ddisgyblion yn byw yn yr 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae’r ysgol yn cydnabod bod arweinyddiaeth ganol dda yn ffactor pwysig wrth wella safonau. Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r ysgol wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu arweinwyr canol profiadol, arweinwyr canol a benodwyd yn ddiweddar a darpar arweinwyr canol fel rhan o’i thaith i wella.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Mae cyswllt sylfaenol rhwng ansawdd uchel uwch arweinyddiaeth ac arweinyddiaeth ganol yn St Joseph’s RC High School a’r deilliannau rhagorol ar gyfer disgyblion.

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ‘feithrin’ arweinwyr ac mae’r diwylliant hwn yn treiddio trwy’r ysgol. Dros y tair blynedd diwethaf, mae dros 30 o athrawon wedi cael hyfforddiant mewn arweinyddiaeth a rheolaeth a ddarparwyd gan yr ysgol a’u cefnogi gan hyfforddiant arweinyddiaeth allanol o ansawdd uchel. Mae llawer o’r athrawon hyn yn arweinwyr canol newydd, yn arweinwyr canol a benodwyd yn ddiweddar neu’n ddarpar arweinwyr canol.

Canolbwyntiodd yr hyfforddiant ar wella’r medrau sydd eu hangen ar gyfer rheoli, hunanarfarnu a chynllunio gwelliant llwyddiannus. Adlewyrchir effaith yr hyfforddiant hwn ar ansawdd y gwaith a wneir gan benaethiaid adran a phenaethiaid blwyddyn yn y safonau cyson uchel a gyflawnir gan ddisgyblion. Nod cychwynnol yr ysgol oedd darparu pecyn hyfforddi ar gyfer arweinwyr canol a benodwyd yn ddiweddar a oedd yn ymarferwyr ystafell ddosbarth effeithiol, ond nid oedd ganddynt ryw lawer o brofiad o arwain neu reoli pobl eraill.

Dechreuodd y rhaglen hon yn 2010 gyda grŵp o 15 o athrawon. Cynhaliwyd hyfforddiant yn ystod sesiynau hyfforddi cyfnos, ac roedd yn canolbwyntio ar rôl arweinwyr canol mewn:

  • olrhain cynnydd disgyblion a defnyddio data yn effeithiol;
  • sut i gynnal arsylwadau gwersi; a
  • rôl llais y disgybl mewn hunanarfarnu.

Yn ystod tymor yr haf yn 2010, darparwyd rhagor o hyfforddiant allanol fel rhan o ddigwyddiad deuddydd ar gyfer datblygu arweinwyr canol. Canolbwyntiodd yr hyfforddiant hwn ar fedrau arwain a rheoli ac roedd yn cynnwys sesiynau ar ddarparu adborth effeithiol, datblygu tîm, hyfforddiant a mentora. Arweiniodd llwyddiant y rhaglen hon at ddatblygu ail garfan o 15 o athrawon yn 2011-2012. Roedd llawer o’r rhain yn ddeiliaid swydd â chyfrifoldeb addysgu a dysgu neu’n bobl a oedd yn anelu am swyddi arweinyddiaeth ganol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r ysgol wedi datblygu rhaglen deilwredig ar gyfer penaethiaid blwyddyn ac mae’n datblygu rhagor o gyfleoedd ar gyfer arweinwyr canol sy’n anelu tuag at gael rolau uwch arweinyddiaeth.

Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn gweithio’n agos iawn gydag arweinwyr canol i ddatblygu hunanarfarnu a chynllunio gwelliant adrannol. Yn ystod cyfarfodydd penaethiaid adran, mae arweinwyr canol yn adolygu gwersi wedi’u ffilmio ac yn trafod ansawdd yr addysgu a’r safonau a gyflawnir gan ddisgyblion. Trwy drafodaethau gyda staff, mae’r ysgol wedi cytuno ar eirfa gyffredin er mwyn arfarnu’r addysgu a’r dysgu.

Arweiniodd y trafodaethau hyn at lunio ffurflen newydd ar gyfer cynllunio gwersi a ffurflen arsylwi gwersi. Cynhelir pob adolygiad adran ar y cyd, ac mae arweinwyr canol ac uwch arweinwyr yn cynnal arsylwadau gwersi, yn craffu ar waith disgyblion ac yn gwrando ar safbwyntiau’r dysgwyr. Mae’r dystiolaeth o’r adolygiadau hyn a’r cylch hunanarfarnu y mae adrannau’n ymgymryd ag ef yn bwydo’n uniongyrchol i’r adroddiadau hunanarfarnu a’r cynlluniau gwella adrannol o ansawdd uchel.

Mae cyfarfodydd cyswllt bob hanner tymor rhwng uwch arweinwyr ac arweinwyr canol yn cyd-fynd â’r gwaith datblygiadol hwn. Mae’r cynllun gwella adran, cynnydd yn unol â chamau gweithredu a’u heffaith, yn eitemau sefydlog ar yr agenda yn y cyfarfodydd hyn. Mae’r pennaeth yn mynychu pob un o’r cyfarfodydd hyn, gan ddarparu rôl sicrhau ansawdd a chael trosolwg ar draws yr holl feysydd pwnc. 

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae ansawdd arweinyddiaeth ganol yn nodwedd ragorol yn yr ysgol, ac mae wedi arwain at y canlynol:

  • addysgu a dysgu o ansawdd uchel ar draws yr ysgol;
  • safonau uchel iawn ym mhob cyfnod allweddol; a
  • lefelau uchel lles disgyblion.

Mae bron pob arweinydd canol, gan gynnwys penaethiaid blwyddyn a phenaethiaid adran, yn gwneud cyfraniad rhagorol at lwyddiant yr ysgol ac mae ganddynt ddealltwriaeth gref o’u rôl. Mae diwylliant datblygedig iawn o atebolrwydd ar gyfer safonau, cynnal hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwelliant. Mae arweinwyr canol yn rhoi cymorth a her effeithiol iawn i’w timau. Mae perthnasoedd gweithio cryf a phwrpasol iawn rhwng arweinwyr canol a’u huwch gydweithwyr cyswllt. Mae cyfathrebu effeithiol a lefelau uchel o ymddiriedaeth wedi bod yn ffactorau arwyddocaol wrth barhau i godi safonau.

Caiff y deilliannau o’r gwaith hwn eu cydnabod yn ein hadroddiad arolygu diweddaraf, sy’n datgan:

  • ‘Mae’r safonau a gyflawnir gan ddisgyblion yn rhagorol. Mae’r ysgol wedi cynnal lefelau uchel o berfformiad dros y pum mlynedd diwethaf ac mae nifer o nodweddion cryf iawn. Mae’r rhain yn cynnwys cynnydd a chyflawniad rhagorol yr holl ddisgyblion, gan gynnwys bechgyn a disgyblion mwy abl’; ac
  • Mae lefelau presenoldeb dros y pum mlynedd diwethaf yn rhagorol ac yn golygu bod yr ysgol yn y chwarter uchaf o ysgolion tebyg yng Nghymru yn gyson. Mae hon yn nodwedd ragorol. Mae ymddygiad disgyblion yn eithriadol o dda. Maent yn gwrtais ac yn uniaethu’n dda iawn â’i gilydd, yn ogystal â phob un o’r staff ac ymwelwyr.’

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Ymagweddau effeithiol wrth asesu sy'n gwella addysgu a dysgu

Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei lythyr cylch gwaith i Estyn ar gyfer 2021-2022. ...Read more
Adroddiad thematig |

Crynodeb o alwadau ac ymweliadau ymgysylltu ag ysgolion ac UCDau – hydref 2021

Yn ystod y pandemig, cyflwynodd Estyn ragle ...Read more
Adroddiad thematig |

Pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch

pdf, 1.24 MB Added 04/08/2020

Canllaw arfer dda ar gyfer busnes, economeg, llywodraeth a gwleidyddiaeth, y gyfraith, seicoleg a chymdeithaseg UG a Safon Uwch yn y chweched dosbarth mewn ysgolion ac mewn colegau addysg bellach. ...Read more
Adroddiad thematig |

Cymwysterau newydd

pdf, 1.43 MB Added 17/07/2018

Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i gais yn llythyr cylch gwaith blynyddol Ysgrifennydd y Cabinet i Estyn ar gyfer 2017-2018. ...Read more