Arfer Effeithiol |

Arweinyddiaeth ddosbarthedig sy’n cefnogi gwelliant ysgol

Share this page

Nifer y disgyblion
1530
Ystod oedran
11-16
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Cafodd ysgolion Bryngwyn a Glan-y-Môr eu ffedereiddio’n ffurfiol ym Medi 2014 gan ddod yn beilot ar gyfer ffederasiynau uwchradd yng Nghymru.  Maent 7 milltir oddi wrth ei gilydd.  Ysgol gymunedol, gymysg 11-16 oed yw Ysgol Bryngwyn.  Mae wedi’i lleoli yn Nafen, ar ochr gogledd ddwyreiniol Llanelli, Sir Gaerfyrddin ac mae disgyblion o rannau o ganol y dref ac o nifer o bentrefi cyfagos yn mynychu’r ysgol.  Mae 1,050 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae tua 20% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Ysgol gymunedol 11-16 ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin yw Glan-y-Môr, gyda 480 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae tua 30% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae’r ddwy ysgol nid yn unig yn gweithio mewn partneriaeth â’i gilydd, maent hefyd yn gweithio mewn partneriaeth agos â chlwstwr o ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd eraill yn yr ardal a’r coleg Addysg Bellach lleol.  Mae’r ddwy ysgol yn ysgolion arloesi ac ysgolion creadigol arweiniol

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae arweinyddiaeth yn ysgogwr allweddol ar unrhyw daith wella ysgolion, hyd yn oed fwy felly yng nghyd-destun ffederasiynau lle mae disgwyliad bod arweinwyr ar draws sefydliadau yn gweithredu’n ymreolaethol.  Mae ffederasiynau newydd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i rannu arfer orau gyda chynulleidfaoedd newydd, datblygu safbwyntiau gwahanol a darparu symbyliad newydd ar gyfer newid.  Mae rheolaeth effeithiol ar ffederasiynau yn mynnu datblygu arweinyddiaeth wirioneddol ddosbarthedig ar bob lefel ac, yn bwysicaf, drwy sefydliadau ac ar draws sefydliadau.  Y model arweinyddiaeth ddosbarthedig hwn sydd wedi galluogi gwneud cynnydd cyflym ar draws y gyd-ddarpariaeth.  Dros gyfnod, mae model arweinyddiaeth deinamig a chydweithredol wedi datblygu.  Yn y ddwy ysgol, ceir uchelgais a brwdfrydedd i sicrhau deilliannau gwell a lefelau cadarn o les disgyblion a’r set o fedrau cywir i sicrhau hyn.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yr her wreiddiol i’r ddwy ysgol oedd datblygu strwythurau uwch arweinyddiaeth newydd a fyddai’n galluogi arweinyddiaeth effeithiol yn y ddwy ysgol wrth fodloni gofynion presennol ar lefel ysgol gyfan, lefel leol a lefel genedlaethol.  I fynd i’r afael â hyn, ymgymerodd yr holl arweinwyr â rolau ar draws y ffederasiwn ochr yn ochr â’u rolau yn yr ysgol, gyda phob aelod o’r uwch dîm arwain yn cael cyfrifoldebau ffederasiwn “ymbarél”.  Dros gyfnod, mae’r her o weithredu ar draws ddau safle wedi ysgogi’r ysgol i fod yn fwy pragmatig o ran ei dull arwain.  Er enghraifft, mae dyletswyddau rheolwyr llinell a arferai gael eu dosbarthu ar draws yr Uwch Dîm Arwain cyfan ac ar draws safleoedd y ddwy ysgol wedi datblygu fel bod arweinwyr canol yn cael mwy o fynediad at gysylltiadau’r Uwch Dîm Arwain sy’n gweithio ar eu safle.

Er mwyn i ffederasiwn weithio, roedd yn hanfodol hefyd creu diwylliant o arloesi ac atebolrwydd ar lefel arweinwyr canol.  Roedd y cyfle a grëwyd gan ffederasiwn i weithio mwy mewn partneriaeth, a’r fraint unigryw i staff weithio ar draws ysgolion ac i rannu syniadau a phrofiadau addysgol, yn allweddol i hyn.  Hyd yma, yn nhair blynedd gyntaf y ffederasiwn, mae 34 aelod o staff wedi elwa yn sgil ymgymryd â chyfrifoldebau arwain ychwanegol ar lefel adrannol, ysgol gyfan a ffederasiwn, gan arwain at gyfleoedd newydd pwysig ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.  Mae hyn wedi cynyddu gallu arweinyddiaeth yr ysgol ac wedi gwella ei gwydnwch i reoli newid yn effeithiol yn y dyfodol.

Roedd yn bwysig hefyd sicrhau bod corff llywodraethol y ffederasiwn yn darparu lefel gyson uchel o her a chymorth i’r ysgol, ac i ddatblygu llywodraethu cadarn, arloesol a fyddai’n darparu cyfeiriad strategol cryf ac atebolrwydd i’r ffederasiwn.  Roedd yn hollbwysig creu llywodraethu cefnogol i’w gilydd, ac eto llywodraethu ymreolaethol yn lleol ar gyfer Bryngwyn a Glan-y-Môr. Byddai hyn yn galluogi’r ysgolion i ffynnu a hefyd cadw nodweddion unigryw eu cymunedau eu hunain a’r poblogaethau a wasanaethir ganddynt.

I gyflawni’r nodau hyn, mae’r ysgol wedi datblygu model arweinyddiaeth sy’n canolbwyntio ar y “6C”:

1. Cysondeb – mae sicrhau ansawdd darpariaeth, mynediad at adnoddau a datblygu cymorth arbenigol ar draws y ffederasiwn wedi lleihau amrywio o fewn yr ysgolion ac ar draws y ffederasiwn.

2. Cydweithio – wrth i gydweithio ddod yn fwy naturiol a sefydledig, mae’r ysgol yn gweithio’n graffach, ac yn gwella ei harferion.

3. Cynnig Her – defnyddio cyd-destun a data i osod targedau heriol sy’n symud y dysgwr yn ei flaen a pheidio byth ag anghofio’r angen i ddisgyblion fwynhau eu profiadau yn yr ysgol.  Mantra’r ysgol ar gyfer disgyblion a staff yn syml yw, ‘bod y gorau y gallant fod’.  Mae hunanarfarnu a chynllunio gwelliant trwyadl, cadarn ac ystyrlon ar draws y ffederasiwn wedi sicrhau gwelliannau rhagorol i safonau, profiadau dysgu, ac wedi arwain at addysgu o safon uchel yn barhaus.

4. Capasiti – trwy ddefnyddio medrau ac arbenigedd cyfunol yr holl staff i rannu arfer dda ac annog sgwrs ynghylch addysgeg, mae’r ysgol yn gwella profiad y dysgwr a’r ymarferwr.  Mae’r ysgol yn ceisio newid a gwella’n gyson, wrth ragweld beth sydd ar y “gorwel” a cheisio cynllunio ar ei gyfer yn bwyllog, yn ddadansoddol ac yn effeithiol.

5. Creu Hinsawdd – Mae hyrwyddo diwylliant o “Ymddiriedaeth a Sgwrs” ar draws y ffederasiwn wedi bod yn hanfodol i lwyddiant yr ysgol.  Mae cydweithwyr i gyd yn ymboeni’n angerddol ynglŷn â beth maent yn ei wneud ac yn deall pwysigrwydd gweithio gyda’i gilydd i gyflawni gwelliant i’r holl ddysgwyr.  Mae hyn yn ymestyn dros feysydd academaidd a meysydd bugeiliol.  Uchelgais syml yr ysgol i’w disgyblion yw y bydd yn eu helpu i ‘adeiladu bywyd’ iddyn nhw eu hunain.

6. Cystadleuaeth: mae cystadleuaeth iach a chyfeillgar rhwng ysgolion ac ar draws adrannau o fewn y ffederasiwn, ac mae hyn wedi helpu gwella safonau.  Mae safonau yn uchel iawn yn y ddwy ysgol.  Mae Glan-y-Môr wedi gweld gwelliant sylweddol mewn deilliannau o flwyddyn i flwyddyn ers ffedereiddio, ac mae Bryngwyn wedi cynnal ei safonau, gan gyflawni rhai o’r canlyniadau gorau erioed yn y 4 o’r 5 mlynedd diwethaf.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Yn ogystal â’r gwelliannau mewn deilliannau disgyblion a nodwyd uchod, mae’r ffederasiwn wedi datblygu ymagwedd arloesol at wobrau a chosbau sydd wedi arwain at welliannau sylweddol mewn lles disgyblion ac agweddau cadarnhaol at ddysgu.  Mae cydweithio, yn cynnwys cyfarfodydd ar y cyd ac arsylwi a rhannu arferion gorau ac adnoddau, wedi gweithio fel sbardun i welliannau ar draws y cwricwlwm, sydd yn eu tro wedi bod yn ysgogwyr allweddol ar gyfer ymgysylltu a deilliannau gwell i grwpiau o ddisgyblion.  Erbyn hyn, mae gan ddisgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr ymdeimlad cryf o berthyn i’r ffederasiwn ac mae pob ysgol yn teimlo gwir falchder yn eu cyflawniadau ar y cyd.  Mae arwyddair yr ysgol, sef ‘rhoi o’n gorau’, yn ymgorffori penderfyniad y ddwy ysgol i gyflawni rhagoriaeth, ond mae hefyd yn cyfleu ei ffocws ar bob unigolyn yn rhoi o’i orau glas i wireddu ei botensial.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Caiff arfer dda ei rhannu drwy sgwrs agored a gonest yn seiliedig ar hunanarfarnu trwyadl sy’n dathlu cryfderau ac yn cynyddu’r uchelgais i wella mwy fyth.  Mae staff ar bob lefel yn dadansoddi eu cryfderau a meysydd i’w datblygu gyda rheolwyr llinell.  Mae rhaglen hyfforddi a mentora bersonoledig iawn ar waith ar gyfer pob un o’r staff: caiff athrawon eu paru’n ofalus ag ymarferwyr arweiniol o fewn y ffederasiwn ac ar draws y ffederasiwn.  Anogir staff ar bob lefel i ymgymryd â rôl arweiniol ar draws y ffederasiwn ar ffurf ‘Teachmeets’, digwyddiadau HMS a fforymau addysgu a dysgu lle mae staff yn cyfranogi mewn sgwrs broffesiynol fywiog wrth rannu strategaethau sy’n amrywio o arfer yn yr ystafell ddosbarth i arferion arweinyddiaeth effeithiol.  Defnyddir fforymau digidol i ymgorffori arfer dda a pharhau i rannu gyda mwy o staff dros gyfnod.

Lle bo modd, archwilir cyfleoedd y tu hwnt i’r ffederasiwn hefyd wrth i staff gael eu hannog i rannu’u cryfderau gyda chydweithwyr o ysgolion eraill o fewn y teulu o ysgolion ac ar draws y rhanbarth.  

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Adroddiad interim ar y sector uwchradd

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o alwadau ffôn ymgysylltu a galwadau ffôn bugeiliol a wnaed i ysgolion uwchradd yn ystod Ionawr a Chwefror 2021. ...Read more
Adroddiad thematig |

Cymorth effeithiol yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sydd dan anfantais a disgyblion sy’n agored i niwed – astudiaethau achos arfe

pdf, 2.18 MB Added 18/02/2020

Mae’r adroddiad yn nodi arferion ysgol effeithiol i gynorthwyo disgyblion sydd dan anfantais a disgyblion sy’n agored i niwed. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Cwricwlwm sy’n ennyn diddordeb pob disgybl

Caiff dyluniad y cwricwlwm yn Ysgol Bryngwyn ei ysgogi gan ddiddordebau, dyheadau ac anghenion dysgwyr. Mae hyn yn sicrhau bod amrywiaeth a chyfle priodol i bawb. ...Read more
Adroddiad thematig |

Gwyddoniaeth yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4

pdf, 1.31 MB Added 20/09/2017

Mae'r adroddiad hwn yn ystyried ystod o ffactorau, fel ansawdd addysgu ac asesu, cynllunio’r cwricwlwm, datblygiad staff, a phrofiadau dysgu cwricwlaidd ac allgyrsiol, sy’n cyfrannu at wella safona ...Read more
Adroddiad thematig |

Arfer orau o ran datblygu arweinyddiaeth mewn ysgolion - Mehefin 2015

pdf, 963.55 KB Added 10/06/2015

Cyhoeddir yr adroddiad arolwg thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2014-2015. ...Read more
Adroddiad thematig |

Arfer dda mewn mathemateg yng nghyfnod allweddol 4 - Hydref 2013

pdf, 439.42 KB Added 01/10/2013

Cyhoeddir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yng nghylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2012-2013. ...Read more
Adroddiad thematig |

Rhifedd yng nghyfnodau allweddol 2 a 3: astudiaeth gwaelodlin - Mehefin 2013

pdf, 743.13 KB Added 01/06/2013

Yr adroddiad hwn yw’r cyntaf mewn cyfres i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2012-2013. ...Read more
Adroddiad thematig |

HMS Statudol mewn ysgolion - Mehefin 2013

pdf, 543.71 KB Added 01/06/2013

Cyhoeddir yr adroddiad hwn mewn ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2012-2013. ...Read more
Adroddiad thematig |

Mynd i'r afael a thlodi ac anfantais mewn ysgolion: cydweithio ar gymuned a gwasanaethau eraill - Gorffennaf 2011

pdf, 663.02 KB Added 01/07/2011

Mae angen i ysgolion wneud yn well o ran nodi a chefnogi dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig. ...Read more