Cwricwlwm sy’n ennyn diddordeb pob disgybl
![](/sites/estyn.staging.website-express.co.uk/files/2021-03/Secondary%204_1.jpg)
Gwybodaeth am yr ysgol
Ysgol gymysg, gymunedol, 11-16 yw Ysgol Bryngwyn. Mae wedi’i lleoli yn Nafen, ar ochr gogledd ddwyrain Llanelli, ac mae disgyblion o rannau o ganol y dref ac o nifer o bentrefi cyfagos yn mynychu’r ysgol. Mae 1,050 o ddisgyblion ar y gofrestr: Mae tua 20% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Cafodd Bryngwyn a Glan-y-Môr eu ffedereiddio’n ffurfiol ym Medi 2014 ac, o ganlyniad, daeth yn gynllun peilot arloesol ar gyfer ffedereiddio uwchradd. Mae’r ddwy ysgol yn ysgolion creadigol arloesol ac arweiniol.
Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector
Mae Bryngwyn wedi datblygu cwricwlwm sy’n cael ei ysgogi gan ddiddordebau disgyblion. Mae’n hynod hyblyg a phersonoledig i ddysgwyr.
Mae’r ysgol yn gofyn am safbwyntiau’r holl randdeiliaid ac yn addasu’r cwricwlwm bob blwyddyn yn unol ag anghenion dysgwyr a’r gymuned leol. Mae hyn yn sicrhau bod amrywiaeth a chyfle priodol i bawb.
Mae gan yr ysgol hanes helaeth o greadigrwydd ac arloesedd yn y cwricwlwm ac mae cynnydd rhagorol y disgyblion ym Mryngwyn wedi digwydd o ganlyniad i lawer o’r datblygiadau dilyniadol hyn.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Mae adnabod dysgwyr, eu diddordebau, eu dyheadau a’u hanghenion dysgu yn hanfodol i ddull yr ysgol o ddylunio’r cwricwlwm. Caiff disgyblion eu monitro’n agos trwy olrhain ac ymgynghori helaeth trwy ystod o fforymau dysgu i sicrhau bod adborth trylwyr yn cael ei gasglu i lywio model y cwricwlwm.
Mae staff yn rhan allweddol o’r ddeialog barhaus am ddylunio’r cwricwlwm hefyd. Mae hyn yn galluogi’r ysgol i gynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ar draws pynciau ac o fewn pynciau. Mae ehangder cynlluniedig a helaeth y ddarpariaeth yn galluogi pob disgybl i ymgysylltu â’r cwricwlwm ac mae’n sicrhau bod llwyddiant disgyblion yn gallu cael ei ddathlu ar bob cyfle.
Cydbwysedd yn y cwricwlwm
Mae’r cwricwlwm yn darparu’r cydbwysedd angenrheidiol i sicrhau bod disgyblion yn datblygu medrau yn ogystal â gwybodaeth bwnc. Caiff datblygiad medrau ei gynllunio’n ofalus a’i olrhain yn effeithiol ar draws pob maes pwnc. Mae gan Fryngwyn ddull cydlynus o ddatblygu medrau, yn enwedig rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol, gan ganiatáu i adrannau gael yr hyblygrwydd i ymgorffori cyfleoedd i ddatblygu medrau mewn ffyrdd perthnasol ac ystyrlon.
Mae’r cwricwlwm yn darparu cyfleoedd ar gyfer gwella i ddysgwyr o bob gallu. Defnyddir grwpiau anogaeth ac ymestyn yn effeithiol i ddarparu cymorth a her briodol i ddysgwyr ac fe gaiff grwpiau disgyblion eu hadolygu’n rheolaidd. Defnyddir strategaethau cymorth llwyddiannus gydag amrywiaeth o raglenni mentora a grwpiau ymyrraeth sy’n targedu dysgwyr yng nghyfnodau allweddol 3 a 4. Caiff disgyblion mwy abl eu hymestyn trwy ystod o ddarpariaethau, gan gynnwys cyrsiau ymestyn mewn Mathemateg a Chymraeg a chlybiau dydd Sadwrn mewn partneriaeth â darparwyr ôl-16. Caiff pob dysgwr gyfle i elwa ar amrywiaeth lawn o weithgareddau ehangach sy’n darparu’r profiadau dysgu amrywiol sy’n gwneud y cwricwlwm mor effeithiol. Ceir lefelau uchel o gyfranogi yng ngweithgareddau’r Eisteddfod, mewn cystadlaethau pwnc, clybiau, prosiectau eco, cerddoriaeth a llawer mwy o weithgareddau, yn cyfrannu at ddiwylliant ac ethos sy’n manteisio ar bob cyfle i ddathlu llwyddiant disgyblion. Mae hyn yn fwyaf amlwg yn nefnydd yr ysgol o ganmoliaeth a gwobrau, sy’n diweddu â noson wobrwyo eithriadol o dda y mae llawer yn ei mynychu, sy’n sicrhau bod disgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr yn ymfalchïo yn eu cyflawniadau gyda’i gilydd.
Agenda 14-19
Mae’r cwricwlwm hynod hyblyg ym Mryngwyn yn galluogi disgyblion i ddewis llwybr sy’n addas i’w hanghenion. Wrth ddewis eu llwybr dewisol ym Mlwyddyn 9, rhoddir cyfle i ddisgyblion arbrofi â’u dewisiadau i sicrhau eu bod yn gweddu’n briodol. Yng nghyfnod allweddol 4, caiff disgyblion y dewis i ddilyn tri llwybr gwahanol, sef: Ymestyn, Gwella neu Gyfoethogi. Mae’r cydbwysedd o ran amser a dewis opsiynau yn amrywio yn unol â’r llwybr y mae disgybl yn ei ddilyn.
Caiff y broses opsiynau ei harwain gan ddysgwyr i raddau helaeth. Rhoddir dewis rhydd i ddisgyblion ynglŷn â pha bynciau yr hoffent eu hastudio, ac mae rhwydwaith cymorth gofalus ar waith i roi arweiniad priodol i ddisgyblion i sicrhau deilliannau llwyddiannus. Caiff disgyblion gyfle i ddewis opsiynau sy’n cwmpasu ystod o brofiadau sy’n adlewyrchu profiadau academaidd a galwedigaethol fel ei gilydd. Ni chaiff dewisiadau eu cyfyngu i un llwybr penodol ac mae’r ysgol yn rhoi gwerth cyfartal i’r naill a’r llall. Caiff ystod eang o bynciau eu cynnig a’u cefnogi trwy bartneriaeth hynod lwyddiannus gyda darparwyr ôl-16 sy’n cyfrannu at gyflwyno ystod o gyrsiau galwedigaethol wedi’u dewis yn ofalus. Mae datblygu’r Ganolfan Medrau Galwedigaethol arloesol yn gryfder arbennig yn yr ysgol wrth iddi weithio mewn partneriaeth â chlwstwr Llanelli i ddarparu profiadau bywyd go iawn.
Arloesedd
Mae’r ysgol wedi ymrwymo i arloesedd ac mae ganddi hanes o greadigrwydd o fewn y cwricwlwm. Mae ystod o wythnosau ffocws, prosiectau a chynlluniau partneriaeth yn arwain at y cwricwlwm creadigol a dychmygus a gynigir ym Mryngwyn. Datblygwyd dyfarniad unigryw yn ddiweddar, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar gyfranogiad disgyblion yn y medrau ehangach yng Nghymru. Roedd dyfarnu “Bryngwyn Baby Bac’ (B3) yn llwyddiannus iawn yn ei flwyddyn beilot, lle wynebodd myfyrwyr ym mlwyddyn 7 ac 8 gyfres o heriau wedi’u cysylltu gan thema gyffredin gydag asesiad yn canolbwyntio ar bob un o’r medrau ehangach. Adroddodd staff a disgyblion am lefelau uchel o gyfranogiad, mwynhad ac ymgysylltu. Caiff cyflawniad ar gyfer disgyblion ei ddathlu â gwobr aur, arian neu efydd.
Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae’r parhad yn natblygiadau’r cwricwlwm a’r ymrwymiad i ddeialog ac adolygiad rheolaidd gyda staff a disgyblion wedi galluogi Bryngwyn i ddangos cynnydd sylweddol yn neilliannau disgyblion yng nghyfnod allweddol 3 a 4. Mae dyluniad y cwricwlwm yn ychwanegu gwerth sylweddol i ddisgyblion ym Mryngwyn o ran eu medrau a’u deilliannau cyffredinol.
Mae disgyblion yn ddysgwyr hyderus, annibynnol a chydweithredol sy’n arddangos llawer o wydnwch, ac maent yn ymgysylltu’n dda â’u hastudiaethau.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Fel rhan o ffederasiwn, mae Bryngwyn yn sicrhau bod yr holl ddatblygiadau’n cael eu rhannu ar draws y ffederasiwn. Mae partneriaeth â’r darparwr ôl-16 yn Llanelli ac ysgolion uwchradd eraill yn sicrhau bod adnoddau a chyfleoedd yn y sector 14-19 oed yn cael eu rhannu. Mae hyn yn amlwg yn y ddarpariaeth medrau galwedigaethol. Mae Bryngwyn yn gweithio gyda’r grŵp cwricwlwm DEPNET yn Sir Gaerfyrddin hefyd. Fel rhan o’r rhwydwaith arloesol, caiff rhwydwaith ffederasiwn Bryngwyn a Glan Y Môr gyfle i weithio gyda nifer o ysgolion y tu allan i’r rhanbarth ar ddatblygiadau’r cwricwlwm.
Dolenni defnyddiol
Adnoddau eraill gan y darparwr hwn
![](/sites/estyn.staging.website-express.co.uk/files/styles/95_x_95/public/2021-03/promo.png)
Adroddiad interim ar y sector uwchradd
![Cymorth effeithiol yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sydd dan anfantais a disgyblion sy’n agored i niwed – astudiaethau achos arfer dda](/system/files/styles/document_100_by_auto/private/2020-07/Effective%2520school%2520support%2520for%2520disadvantaged%2520and%2520vulnerable%2520pupils%2520cy.pdf_0.png)
Cymorth effeithiol yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sydd dan anfantais a disgyblion sy’n agored i niwed – astudiaethau achos arfe
pdf, 2.18 MB Added 18/02/2020
![](/sites/estyn.staging.website-express.co.uk/files/styles/95_x_95/public/2021-03/Secondary%203_0.jpg)
Arweinyddiaeth ddosbarthedig sy’n cefnogi gwelliant ysgol
![Gwyddoniaeth yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4](/system/files/styles/document_100_by_auto/private/2020-07/Science%2520at%2520key%2520stage%25203%2520and%2520key%2520stage%25204%25202%2520cy.pdf_1.png)
Gwyddoniaeth yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4
pdf, 1.31 MB Added 20/09/2017
![Arfer orau o ran datblygu arweinyddiaeth mewn ysgolion - Mehefin 2015](/system/files/styles/document_100_by_auto/private/2020-07/Arfer_orau_o_ran_datblygu_arweinyddiaeth_mewn_ysgolion_-_Mehefin_2015.pdf.png)
Arfer orau o ran datblygu arweinyddiaeth mewn ysgolion - Mehefin 2015
pdf, 963.55 KB Added 10/06/2015
![Arfer dda mewn mathemateg yng nghyfnod allweddol 4 - Hydref 2013](/system/files/styles/document_100_by_auto/private/2020-07/Arfer%2520dda%2520mewn%2520mathemateg%2520yng%2520nghyfnod%2520allweddol%25204%2520-%2520Hydref%25202013.pdf_1.png)
Arfer dda mewn mathemateg yng nghyfnod allweddol 4 - Hydref 2013
pdf, 439.42 KB Added 01/10/2013
![HMS Statudol mewn ysgolion - Mehefin 2013](/system/files/styles/document_100_by_auto/private/2020-07/HMS%2520Statudol%2520mewn%2520ysgolion%2520-%2520Mehefin%25202013.pdf_1.png)
HMS Statudol mewn ysgolion - Mehefin 2013
pdf, 543.71 KB Added 01/06/2013
![Rhifedd yng nghyfnodau allweddol 2 a 3: astudiaeth gwaelodlin - Mehefin 2013](/system/files/styles/document_100_by_auto/private/2020-07/Rhifedd%2520yng%2520nghyfnodau%2520allweddol%25202%2520a%25203%253A%2520astudiaeth%2520gwaelodlin%2520-%2520Mehefin%25202013.pdf_0.png)
Rhifedd yng nghyfnodau allweddol 2 a 3: astudiaeth gwaelodlin - Mehefin 2013
pdf, 743.13 KB Added 01/06/2013
![Mynd i'r afael a thlodi ac anfantais mewn ysgolion: cydweithio ar gymuned a gwasanaethau eraill - Gorffennaf 2011](/system/files/styles/document_100_by_auto/private/2020-07/364.jpg)
Mynd i'r afael a thlodi ac anfantais mewn ysgolion: cydweithio ar gymuned a gwasanaethau eraill - Gorffennaf 2011
pdf, 663.02 KB Added 01/07/2011